Skip to main content
Manager and employee in office

Cyflogwyr: Dyfodol cynaliadwy

 

Kelloggs

Kellogg's discovers the best way to start the day at work with mental health support from Able Futures

Camden Council

How Camden Council turned to Able Futures to support its staff for more enjoyable futures at work

Together Trust

Education, residential care and support services specialist puts its trust in Able Futures for better mental health at work

Footasylum

Retailer taking steps to support mental health with the help of Able Futures

Discover how Able Futures can help employers

Sut gall Able Futures a’r Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad at Waith eich helpu chi a’ch cyflogeion

Mae pobl yn bwysig i bob busnes. Gall eu perfformiad effeithio ar gynhyrchedd a phroffidioldeb.

Mae pobl sy’n byw gyda chyflwr iechyd meddwl yn profi diwrnodau da a diwrnodau gwael. Ar eu diwrnodau gwael gallant golli eu ffocws a chael tasgau’n anodd eu cwblhau. Efallai y bydd hyd yn oed angen iddynt gael amser i ffwrdd o’r gwaith, sy’n gallu effeithio ar eu lefelau perfformiad ac ar eich lefelau cynhyrchedd chi.

Mae’r Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad at Waith yn rhaglen a ariennir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, a gyflenwyd gan Able Futures, sef rhwydwaith cenedlaethol o arbenigwyr a sefydlwyd i helpu pobl gydag anawsterau iechyd meddwl i brofi mwy o ddiwrnodau da.

Mae Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad at Waith yn rhoi cymorth addysgol ac adnoddau i gyflogwyr i’w helpu i ddangos eu hymrwymiad i roi cymorth i bobl â chyflyrau iechyd meddwl yn y gweithle. Nid oes tâl am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn.

  • Cyngor ar roi cymorth i gyflogai gyda chyflwr iechyd meddwl
  • Addysg a phecyn cymorth i chi, i'ch cydweithwyr ac i'ch tîm arweinyddiaeth
  • Hyrwyddo’r gwasanaeth, hawdd cael mynediad iddo yn fewnol i’ch cyflogeion

Ateb eich cwestiynau

Mae’r Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad at Waith yn eich helpu chi i roi cymorth i’ch cyflogeion trwy gymorth cyfrinachol wedi’i lunio o amgylch eu hanghenion a’u harferion bob dydd. Mae hefyd yn rhoi cyngor, cymorth ymarferol a hyrwyddo mewnol y gallwch ei ddefnyddio i godi ymwybyddiaeth o’r gwasanaeth yn eich busnes.

Yn ogystal, bydd pob busnes sy’n cofrestru ar gyfer y gwasanaeth yn derbyn pecyn cymorth i gyflogeion, adnodd hyfforddi sy’n llawn cyngor ar yr hyn i’w wneud a’r hyn i beidio â’i wneud, a gwahoddiadau i ddigwyddiadau Hyderus o ran Anabledd lle y cewch brofiad llaw gyntaf o’r arweiniad a’r ymchwil diweddaraf ar roi cymorth i bobl o ran eu hiechyd meddwl

Pwy fydd yn fy nghefnogi i?Ar ôl cofrestru i ddarparu’r Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad at Waith byddwch chi’n derbyn ystod gynhwysfawr o gymorth. Yn ogystal â’r pecyn cymorth i gyflogwyr, gwahoddiadau i ddigwyddiadau a hyrwyddo mewnol, cewch fynediad i weithwyr cymwysedig i’ch helpu i roi cymorth i’ch cyflogeion. Byddant yn meddu ar brofiad o weithio gyda phobl â chyflyrau iechyd meddwl, sef gwybodaeth y gallwch gael mynediad iddi ar unrhyw adeg.

Nid oes tâl i chi na'ch cyflogeion i ddefnyddio'r Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad at Waith.  Mae hyn yn cynnwys yr holl alwadau, cyfarfodydd, cyngor arbenigol, arweiniad a deunyddiau hyrwyddo.

 Nid oes ots pa fath o fusnes sydd gennych chi, maint y busnes na pha mor aml y bydd eich cyflogeion yn defnyddio’r gwasanaeth. Mae’r holl gymorth a ddarperir o dan y Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad at Waith wedi’i ariannu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

  • Cyngor ar roi cymorth i gyflogai â chyflwr iechyd meddwl
  • Addysg a phecyn cymorth i chi, i’ch cydweithwyr ac i’ch tîm arweinyddiaeth
  • Hyrwyddo’r gwasanaeth, hawdd cael mynediad iddo yn fewnol i’ch cyflogeion
  • Cyfleoedd i fynychu ein digwyddiadau dysgu Hyderus o ran Anabledd

Mae Able Futures yn bartneriaeth genedlaethol arbenigol a sefydlwyd i ddarparu’r Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad at Waith ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae’r cymorth a ddarperir wedi’i lunio i helpu pobl sy’n byw gydag anawsterau iechyd meddwl ac mae wedi’i ariannu gan yr yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Mae’r bartneriaeth Able Futures yn cynnwys:

Ingeus

Mae Ingeus yn ddarparwr gwasanaethau byd-eang sy’n helpu i wneud newidiadau cadarnhaol. Maent yn rhoi’r cymorth a’r sgiliau y mae eu hangen ar bobl i ennill swydd, i ddod yn annibynnol ac i ddod yn gyflogeion cynhyrchiol.

Case-UK

Mae Case-UK yn gweithio gydag unigolion a theuluoedd i greu awydd i newid sy’n arwain at wella eu llesiant personol, eu llesiant cymdeithasol a’u llesiant economaidd.

Health 2 Employment

Mae Health 2 Employment yn rhoi cymorth i bobl sy’n byw gydag anawsterau corfforol ac anawsterau iechyd meddwl. Bydd tîm iechyd meddwl hynod gymwysedig yn helpu pobl i reoli eu cyflyrau fel y gallant ddod o hyd i swyddi ac aros mewn cyflogaeth am gyfnod hirach.

Salus

Mae Salus yn ddarparwr gwasanaethau iechyd galwedigaethol, diogelwch a dychwelyd i’r gwaith a leolir yn y GIG. Mae’r cyngor a’r cymorth o’r radd flaenaf a ddarperir ganddynt yn helpu pobl â chyflyrau iechyd i ddychwelyd i’r gwaith ac i aros mewn cyflogaeth.

Gall y cymorth rydym yn ei ddarparu o dan y Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad at Waith helpu eich cyflogeion gydag anawsterau iechyd meddwl i brofi mwy o ddiwrnodau da, ac mae busnes iachach a hapusach yn well ar gyfer cynhyrchedd.

Ar ben hynny, mae'n bosibl y gall y gwasanaeth wella lefelau presenoldeb a chadw gweithwyr ac, ar yr un pryd, leihau'r amser a dreuliwyd a'r arian a wariwyd ar recriwtio.

Trwy ddarparu cymorth rydych chi’n dangos eich ymrwymiad i weithle mwy cynhwysol ac amrywiol sy’n gallu gwella ymgysylltu cyflogeion a chreu amgylchedd gwaith cadarnhaol.