Manager and employee in office

Sut gall Able Futures a’r Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad at Waith eich helpu chi a’ch cyflogeion

Mae pobl yn bwysig i bob busnes. Gall eu perfformiad effeithio ar gynhyrchedd a phroffidioldeb.

Mae pobl sy’n byw gyda chyflwr iechyd meddwl yn profi diwrnodau da a diwrnodau gwael. Ar eu diwrnodau gwael gallant golli eu ffocws a chael tasgau’n anodd eu cwblhau. Efallai y bydd hyd yn oed angen iddynt gael amser i ffwrdd o’r gwaith, sy’n gallu effeithio ar eu lefelau perfformiad ac ar eich lefelau cynhyrchedd chi.

Mae’r Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad at Waith yn rhaglen a ariennir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, a gyflenwyd gan Able Futures, sef rhwydwaith cenedlaethol o arbenigwyr a sefydlwyd i helpu pobl gydag anawsterau iechyd meddwl i brofi mwy o ddiwrnodau da.

Mae Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad at Waith yn rhoi cymorth addysgol ac adnoddau i gyflogwyr i’w helpu i ddangos eu hymrwymiad i roi cymorth i bobl â chyflyrau iechyd meddwl yn y gweithle. Nid oes tâl am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn.

  • Cyngor ar roi cymorth i gyflogai gyda chyflwr iechyd meddwl
  • Addysg a phecyn cymorth i chi, i'ch cydweithwyr ac i'ch tîm arweinyddiaeth
  • Hyrwyddo’r gwasanaeth, hawdd cael mynediad iddo yn fewnol i’ch cyflogeion

Ateb eich cwestiynau

Mae’r Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad at Waith yn eich helpu chi i roi cymorth i’ch cyflogeion trwy gymorth cyfrinachol wedi’i lunio o amgylch eu hanghenion a’u harferion bob dydd. Mae hefyd yn rhoi cyngor, cymorth ymarferol a hyrwyddo mewnol y gallwch ei ddefnyddio i godi ymwybyddiaeth o’r gwasanaeth yn eich busnes.

Yn ogystal, bydd pob busnes sy’n cofrestru ar gyfer y gwasanaeth yn derbyn pecyn cymorth i gyflogeion, adnodd hyfforddi sy’n llawn cyngor ar yr hyn i’w wneud a’r hyn i beidio â’i wneud, a gwahoddiadau i ddigwyddiadau Hyderus o ran Anabledd lle y cewch brofiad llaw gyntaf o’r arweiniad a’r ymchwil diweddaraf ar roi cymorth i bobl o ran eu hiechyd meddwl.

Ar ôl cofrestru i ddarparu’r Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad at Waith byddwch chi’n derbyn ystod gynhwysfawr o gymorth. Yn ogystal â’r pecyn cymorth i gyflogwyr, gwahoddiadau i ddigwyddiadau a hyrwyddo mewnol, cewch fynediad i weithwyr cymwysedig i’ch helpu i roi cymorth i’ch cyflogeion. Byddant yn meddu ar brofiad o weithio gyda phobl â chyflyrau iechyd meddwl, sef gwybodaeth y gallwch gael mynediad i ar unrhyw adeg.

Nid oes tâl i chi na'ch cyflogeion i ddefnyddio'r Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad at Waith.  Mae hyn yn cynnwys yr holl alwadau, cyfarfodydd, cyngor arbenigol, arweiniad a deunyddiau hyrwyddo.

 Nid oes ots pa fath o fusnes sydd gennych chi, maint y busnes na pha mor aml y bydd eich cyflogeion yn defnyddio’r gwasanaeth. Mae’r holl gymorth a ddarperir o dan y Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad at Waith wedi’i ariannu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

  • Cyngor ar roi cymorth i gyflogai â chyflwr iechyd meddwl
  • Addysg a phecyn cymorth i chi, i’ch cydweithwyr ac i’ch tîm arweinyddiaeth
  • Hyrwyddo’r gwasanaeth, hawdd cael mynediad iddo yn fewnol i’ch cyflogeion
  • Cyfleoedd i fynychu ein digwyddiadau dysgu Hyderus o ran Anabledd

 

Mae Able Futures yn bartneriaeth genedlaethol arbenigol a sefydlwyd i ddarparu’r Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad at Waith ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae’r cymorth a ddarperir wedi’i lunio i helpu pobl sy’n byw gydag anawsterau iechyd meddwl ac mae wedi’i ariannu gan yr yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Mae’r bartneriaeth Able Futures yn cynnwys:

Ingeus

Mae Ingeus yn ddarparwr gwasanaethau byd-eang sy’n helpu i wneud newidiadau cadarnhaol. Maent yn rhoi’r cymorth a’r sgiliau y mae eu hangen ar bobl i ennill swydd, i ddod yn annibynnol ac i ddod yn gyflogeion cynhyrchiol.

Case-UK

Mae Case-UK yn gweithio gydag unigolion a theuluoedd i greu awydd i newid sy’n arwain at wella eu llesiant personol, eu llesiant cymdeithasol a’u llesiant economaidd.

Health 2 Employment

Mae Health 2 Employment yn rhoi cymorth i bobl sy’n byw gydag anawsterau corfforol ac anawsterau iechyd meddwl. Bydd tîm iechyd meddwl hynod gymwysedig yn helpu pobl i reoli eu cyflyrau fel y gallant ddod o hyd i swyddi ac aros mewn cyflogaeth am gyfnod hirach.

Salus

Mae Salus yn ddarparwr gwasanaethau iechyd galwedigaethol, diogelwch a dychwelyd i’r gwaith a leolir yn y GIG. Mae’r cyngor a’r cymorth o’r radd flaenaf a ddarperir ganddynt yn helpu pobl â chyflyrau iechyd i ddychwelyd i’r gwaith ac i aros mewn cyflogaeth.

Gall y cymorth rydym yn ei ddarparu o dan y Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad at Waith helpu eich cyflogeion gydag anawsterau iechyd meddwl i brofi mwy o ddiwrnodau da, ac mae busnes iachach a hapusach yn well ar gyfer cynhyrchedd.

Ar ben hynny, mae'n bosibl y gall y gwasanaeth wella lefelau presenoldeb a chadw gweithwyr ac, ar yr un pryd, leihau'r amser a dreuliwyd a'r arian a wariwyd ar recriwtio.

Trwy ddarparu cymorth rydych chi’n dangos eich ymrwymiad i weithle mwy cynhwysol ac amrywiol sy’n gallu gwella ymgysylltu cyflogeion a chreu amgylchedd gwaith cadarnhaol.