Sut gall Able Futures a’r Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad at Waith eich helpu chi
Os ydych chi’n byw gydag anawsterau iechyd meddwl, rydych chi’n ymwybodol y cewch chi ddiwrnodau da a diwrnodau gwael. Rydych hefyd yn ymwybodol y gall y diwrnodau gwael effeithio arnoch chi yn y gwaith. Mwy na thebyg rydych chi’n ei chael yn anodd ffocysu neu berfformio i’ch lefel orau.
Nod Able Futures yw’ch helpu i fwynhau mwy o ddiwrnodau da. Mae’r Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad at Waith yn cynnig ystod eang o gymorth o’r radd flaenaf gan weithwyr cymwysedig ym maes gofal iechyd. Mae'r gwasanaeth yn gyflym, yn hyblyg ac, orau oll, nid oes tâl am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn.
Trwy’r Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad at Waith gallwch siarad â gweithiwr ym maes gofal iechyd ymhen diwrnod gwaith o gofrestru. Mae’r cymorth wedi’i seilio arnoch chi a’ch anghenion, ac mae popeth rydych chi’n ei drafod yn gyfrinachol.
Mwynhewch fwy o ddiwrnodau da, ffoniwch ni am ddim ar 0800 321 3137 o 8.00am tan 10.30pm, ddydd Llun i ddydd Gwener.
Mae’r Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad at Waith ar gael, os gallwch ateb ‘Ydw’ i’r cwestiynau canlynol*:
- Ydych chi dros 16 oed?
- Ydych chi mewn cyflogaeth neu ar fin dechrau cyflogaeth?
- Ydych chi’n byw ym Mhrydain Fawr?
- Ydych chi’n profi anawsterau iechyd meddwl sy’n effeithio ar eich gwaith
*Nid yw hon yn rhestr gyflawn ac, yn y pen draw, ymgynghorydd Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad at Waith yr Adran Gwaith a Phensiynau fydd yn penderfynu ar gymhwysedd.