Coronafeirws COVID-19: Able Futures yn parhau
Mae Able Futures yn parhau i ddarparu cymorth iechyd meddwl.
Dros y ffôn ac e-bost, rydym yma i gynnig cyngor, arweiniad a chymorth.
Gallwch wneud cais ar-lein neu drwy ffonio 0800 321 3137 i dderbyn cyngor ac arweiniad gan arbenigwr iechyd meddwl, waeth beth sydd ar eich meddwl.
Yn dilyn canllawiau’r Llywodraeth ar ymbellhau cymdeithasol a chyfarwyddyd i osgoi cyswllt cymdeithasol anhanfodol fel ffordd o helpu i warchod pawb rhag coronafeirws COVID-19, mae Able Futures yn parhau i gefnogi pobl ledled Cymru, Lloegr a’r Alban drwy drefnu apwyntiadau dros y ffôn gyda’n Ymgynghorwyr Adferiad Galwedigaethol.
Mae apwyntiadau wyneb yn wyneb wedi cael eu hatal nes rhoddir gwybod yn wahanol, ond os ffoniwch chi 0800 321 3137 neu wneud cais ar-lein am gymorth gan Able Futures, byddwn yn trefnu i chi siarad dros y ffôn, e-bost neu alwad fideo gydag YAG a fydd yn gwrando ar yr hyn yr ydych chi’n ei deimlo ac yn eich helpu i wneud cynllun ar gyfer ffyrdd o deimlo’n well.
Mae Able Futures yn darparu’r Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad at Waith, sydd ar gael i unrhyw un sy’n gyflogedig, yn hunangyflogedig neu’n brentis, gan gynnwys unrhyw un sydd ‘ar seibiant’ (furlough), ac sydd angen cyngor ac arweiniad am unrhyw beth sy’n effeithio ar eu hiechyd meddwl yn ystod y cyfnod heriol hwn.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn, cysylltwch â’ch YAG Able Futures ffoniwch 0800 321 3137 neu e-bostiwch hello@able-futures.co.uk.