Skip to main content

Gwybodaeth am Able Futures

Gyda mynediad uniongyrchol i weithwyr ymmaes gofal iechyd ac i gymorth arbenigol, mae dysgu a datblygu’n creu dyfodol cynaliadwy

Mae Able Futures yn bartneriaeth genedlaethol arbenigol a sefydlwyd i ddarparu’r Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad at Waith ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Nod Able Futures yw helpu pobl sy’n byw gydag anawsterau iechyd meddwl i brofi mwy o ddiwrnodau da na diwrnodau gwael. O ganlyniad, mae’r gwasanaeth wedi’i deilwra’n benodol i helpu pobl mewn cyflogaeth y mae angen cymorth arnynt i reoli eu hiechyd meddwl.

Mae Able Futures yn rhoi cymorth i gyflogwyr a darparwyr prentisiaethau, yn ogystal â rhoi cymorth uniongyrchol i unigolion sy’n profi anawsterau iechyd meddwl.

Caiff cymorth ei gyflenwi gan weithwyr cymwysedig ym maes gofal iechyd, ystod o bartneriaid ac ymgynghorwyr arbenigol a leolir ar draws Prydain Fawr. Mae pob partner yn meddu ar hanes o ddarparu gwasanaethau cyflogaeth o’r radd flaenaf.

Mae’r cymorth a ddarperir o dan Wasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad at Waith yn helpu pobl sy’n ymdopi â’r gwaith a chydag anawsterau iechyd meddwl i brofi mwy o ddiwrnodau da na diwrnodau gwael, fel eu bod yn aros mewn cyflogaeth.

Mae Able Futures yn bartneriaeth genedlaethol arbenigol a sefydlwyd i ddarparu’r Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad at Waith ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Dewiswyd ein partneriaid ar sail eu profiad a’u harbenigedd ym maes rhoi cymorth i bobl gydag anawsterau iechyd meddwl.

Ingeus

Mae Ingeus yn ddarparwr gwasanaethau byd-eang sy’n helpu i wneud newidiadau cadarnhaol. Maent yn rhoi’r cymorth a’r sgiliau y mae eu hangen ar bobl i ennill swydd, i ddod yn annibynnol ac i ddod yn gyflogeion cynhyrchiol.

Case-UK

Mae Case-UK yn gweithio gydag unigolion a theuluoedd i greu awydd i newid sy’n arwain at wella eu llesiant personol, eu llesiant cymdeithasol a’u llesiant economaidd.

Health 2 Employment

Mae Health 2 Employment yn rhoi cymorth i bobl sy’n byw gydag anawsterau corfforol ac anawsterau iechyd meddwl. Bydd tîm iechyd meddwl hynod gymwysedig yn helpu pobl i reoli eu cyflyrau fel y gallant ddod o hyd i swyddi ac aros mewn cyflogaeth am gyfnod hirach.

Salus

Mae Salus yn ddarparwr gwasanaethau iechyd galwedigaethol, diogelwch a dychwelyd i’r gwaith a leolir yn y GIG. Mae’r cyngor a’r cymorth o’r radd flaenaf a ddarperir ganddynt yn helpu pobl â chyflyrau iechyd i ddychwelyd i’r gwaith ac i aros mewn cyflogaeth.

Mae Able Futures yn cynnig ystod o nodweddion sydd o fudd unigryw i unigolion, i gyflogwyr ac i ddarparwyr prentisiaethau.

  • Cymorth penodedig – sefydlwyd Able Futures yn benodol i ddarparu’r Gwasanaeth Cymorth Mynediad at Waith ac i helpu pobl sy’n profi anawsterau iechyd meddwl
  • Ffocws ar gyflogaeth – Mae’r cymorth y mae Able Futures yn ei ddarparu wedi’i ganolbwyntio ar bobl mewn cyflogaeth y mae angen help arnynt i reoli eu hiechyd meddwl
  • Mynediad uniongyrchol –bydd unigolion sy’n gofyn am gymorth yn derbyn mynediad uniongyrchol i weithiwr gofal iechyd cymwysedig
  • Dim tâl i ddefnyddio’r gwasanaeth – mae’r Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad at Waith wedi’i ariannu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • Cyflym ac ymatebol – nid oes unrhyw restr aros ar gyfer Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad at Waith, bydd unigolion yn derbyn galwad ffôn ymhen un diwrnod gwaith o gofrestru
  • Cymorth hyblyg a phwrpasol - wedi’i seilio ar yr unigolyn, ei anghenion a’i arferion bob dydd, gall cymorth gael ei ddarparu wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy e-bost
  • Cyfrinachol – mae Able Futures yn gwarantu cyfrinachedd llwyr, ni fydd cyflogwr, cydweithwyr, teulu na chyfeillion yr unigolyn byth yn gwybod ei fod wedi cael mynediad i’r gwasanaeth oni bai ei fod yn dymuno iddynt wybod
  • Ar gael ledled Prydain Fawr – mae partneriaid y rhwydwaith Able Futures wedi’u lleoli ledled Prydain Fawr ac maent yn cynnig cymorth arbenigol i unrhyw un sy’n gymwys i’w dderbyn
  • Cymhwysedd cynhwysfawr – gall unrhyw un dros 16 oed, sydd mewn cyflogaeth gael mynediad i’r Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad at Waith cyhyd â’i fod yn byw ym Mhrydain Fawr a’i fod yn profi anawsterau iechyd meddwl.

Nid oes tâl i ddefnyddio’r Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad at Waith. Mae hyn yn cynnwys yr holl alwadau, cyfarfodydd a chyngor arbenigol, arweiniad a deunyddiau hyrwyddo.

Mae’r holl gyngor ac arweiniad a roddir i gyflogwyr ac i ddarparwyr prentisiaethau hefyd.

Caiff yr holl gymorth a ddarperir o dan y Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad at Waith ei ariannu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Mae iechyd meddwl da yn dda i bobl, ac yn dda i fusnes.

Buddion i’r unigolyn

  • Dim tâl i ddefnyddio’r gwasanaeth - Ariennir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • Cymorth o safon – Gweithwyr cymwysedig ym maes gofal iechyd a phartneriaid arbenigol yn darparu’r holl gymorth
  • Ymateb cyflym – Siarad gyda gweithiwr ym maes gofal iechyd ymhen diwrnod gwaith
  • Cymorth hyblyg – Cyfarfodydd dros y ffôn, trwy e-bost neu wyneb yn wyneb
  • Gwasanaeth personol – Caiff cymorth ei addasu ar gyfer yr unigolyn ac i weddu ei anghenion
  • Mynediad uniongyrchol – Siarad a chyfarfod gyda phobl sy’n gallu helpu
  • Cyfrinachedd gwarantedig – Nid oes angen i unrhyw un wybod eich bod yn defnyddio’r gwasanaeth oni bai eich bod yn dymuno iddynt wybod
  • Ar gael yn genedlaethol - Mae’r gwasanaeth ar gael ledled Prydain Fawr

Buddion posibl ar gyfer cyflogwyr a darparwyr prentisiaethau

  • Gwella presenoldeb cyflogeion a phrentisiaid
  • Gwella perfformiad cyflogeion a phrentisiaid
  • Gwella cynhyrchedd cyflogeion
  • Gwella’r tebygolrwydd y bydd prentis yn cwblhau ei astudiaethau
  • Dangos ymrwymiad i’r gweithlu
  • Annog ymgysylltu cyflogeion a phrentisiaid
  • Creu ethos cadarnhaol yn eich busnes
  • Gwella eich enw da o ran bod yn lle da i weithio