Hygyrchedd
W3C – Gwasanaeth Dilysu
Adeiladir y wefan hon gan ddefnyddio côd sy’n cydymffurfio â safonau’r World Wide Web Consortium (W3C) ar gyfer XHTML a Cascading Style Sheets. W3C yw’r awdurdod llywodraethol ar safonau ac arferion datblygu’r we. Mae’r safle’n arddangos yn gywir gyda phorwyr cyfredol, ac mae defnyddio côd XHTML safonol yn golygu y gall unrhyw borwyr yn y dyfodol hefyd arddangos y wefan hon yn gywir.
Adborth
Os cewch unrhyw broblem wrth geisio cael mynediad at unrhyw wybodaeth ar y safle, cysylltwch â ni a gwnawn ein gorau i ddarparu’r wybodaeth mewn modd priodol.
Sut mae pobl ag anableddau yn defnyddio’r We?
Gall pobl ag anableddau, megis nam ar eu golwg, ddefnyddio technolegau cynorthwyol i ddefnyddio’r We. Mae technolegau cynorthwyol yn cyfeirio at gynhyrchion a ddefnyddir gan bobl ag anableddau i’w cynorthwyo i gwblhau tasgau na fyddent fel arall yn gallu ei wneud yn hawdd.
Mae nifer o ffurfiau gwahanol ar dechnoleg gynorthwyol, ac mae rhai o’r rhain yn cynnwys:
- Synthesis llais (allbwn llais)
- Bysellfyrddau neu switsys amgen
- Braille a Braille adnewyddadwy
- Chwyddwydrau sgrin
- Hysbysiad sain
- Darllenwyr sgrin
- Adnabod llais
- Porwyr testun
- Porwyr llais
Mae’r canllawiau hygyrchedd a ddilynwn yn cynnwys:
- Caniatáu i ddefnyddwyr reoli maint testun
- Defnyddio math ffont hawdd ei ddarllen
- Sicrhau cyferbyniad lliw addas yn y blaendir a’r cefndir
- Defnyddio gramadeg clir a syml
- Darparu cyfatebiadau testun ystyrlon ar gyfer lluniau
- Darparu gwe-lywio syml a chyson
- Darparu llwybrau gwe-lywio byr ar gyfer defnyddwyr porwyr a darllenwyr tudalennau testun yn unig
- Defnyddio strwythur marcio addas i gael y budd gorau o gefnogaeth porwr
- Sicrhau bod yr holl gynnwys a’r ymarferoldeb ar gael i ddefnyddwyr heb ddalen arddull y cynnwys (content style sheet – CSS), cefnogaeth lluniau a sgript
Rhagor o gymorth
Os oes gennych nam ar eich golwg, rydym yn awgrymu i chi ymweld â gwefan RNIB am gyngor arbenigol ynglŷn â darllenwyr sgrin amgen, chwyddwydrau sgrin a dyfeisiau eraill sydd ar gael ac sy’n gallu gwneud defnyddio cyfrifiadur yn haws ac yn fwy pleserus.
Rydym hefyd yn argymell yn gryf eich bod yn ymweld â gwefan AbilityNet, prif ymgynghoriaeth y DU ym maes cyfrifiadura ac anabledd.