Skip to main content
Apprentice and teacher using woodwork machine

Darparwyr Prentisiaethau: dyfodol cyflogadwy

Sut gall Able Futures a’r Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad at Waith eich helpu chi a’ch prentisiaid

Mae hyfforddi a datblygu prentisiaid yn hanfodol i lwyddiant nifer o fusnesau.

Mae llawer o bobl yn profi diwrnodau da a diwrnodau gwael wrth iddynt fyw a gweithio gydag anawsterau iechyd meddwl. Gall diwrnodau gwael effeithio ar ffocws ac effeithiolrwydd prentis, gan beryglu’r amser a’r adnoddau a fuddsoddwyd yn ei ddatblygiad.

Mae’r Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad at Waith yn rhaglen a ariennir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, a gefnogwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, a gyflenwyd gan Able Futures, sef rhwydwaith cenedlaethol o arbenigwyr a sefydlwyd i helpu pobl gydag anawsterau iechyd meddwl i brofi mwy o ddiwrnodau da.

Gall darparwyr prentisiaethau ddangos eu hymrwymiad i roi cymorth i bobl gyda chyflyrau iechyd meddwl yn y gweithle o dan y Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad at Waith. Nid oes tâl am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn. Mae hefyd yn cynnig cymorth addysg  ac adnoddau gan gynnwys:

  • Cyngor ar roi cymorth i brentis gyda chyflwr iechyd meddwl
  • Addysg a phecyn cymorth sy’n llawn cyngor o ran yr hyn i’w wneud a’r hyn i beidio â’i wneud
  • Hyrwyddo’r gwasanaeth, hawdd cael mynediad iddo yn fewnol i’ch prentisiaid

 

Gwellwch eich darpariaeth iechyd meddwl, ffoniwch ni am ddim ar 0800 321 3137 o 8.00am tan 10.30pm, ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydw i'n ddarparwr prentisiaethau sy'n chwilio am gymorth

Ateb eich cwestiynau

Mae’r Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad at Waith yn eich helpu chi i roi cymorth i’ch prentisiaid trwy gymorth cyfrinachol wedi’i lunio o amgylch eu hanghenion a’u harferion bob dydd. Mae hefyd yn rhoi cyngor, cymorth ymarferol a hyrwyddo mewnol y gallwch ei ddefnyddio i godi ymwybyddiaeth o’r gwasanaeth yn eich busnes.

Yn ogystal, bydd pob darparwr prentisiaethau sy’n cofrestru ar gyfer y gwasanaeth yn derbyn pecyn cymorth, adnodd hyfforddi am ddim sy’n llawn cyngor ar yr hyn i’w wneud a’r hyn i beidio â’i wneud, a gwahoddiadau i ddigwyddiadau Hyderus o ran Anabledd lle y cewch brofiad llaw gyntaf o’r arweiniad a’r ymchwil diweddaraf ar roi cymorth i bobl o ran eu hiechyd meddwl.

Ar ôl cofrestru i ddarparu’r Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad at Waith byddwch chi’n derbyn ystod gynhwysfawr o gymorth. Yn ogystal â’r pecyn cymorth, gwahoddiadau i ddigwyddiadau a hyrwyddo mewnol, cewch fynediad i addysgwr cymwysedig i’ch helpu i roi cymorth i’ch prentisiaid. Bydd eich addysgwr yn meddu ar brofiad o weithio gyda phobl ag anawsterau iechyd meddwl, sef gwybodaeth y gallwch gael mynediad iddi ar unrhyw adeg.

Nid oes tâl i chi na'ch prentisiaid i ddefnyddio'r Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad at Waith. Mae hyn yn cynnwys yr holl alwadau, cyfarfodydd, cyngor arbenigol a deunyddiau hyrwyddo.

Nid oes ots pa mor aml y byddwch chi neu’ch prentisiaid yn defnyddio’r gwasanaeth, mae’r holl gymorth a ddarperir o dan y Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad at Waith wedi’i ariannu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Cynigir pecyn cymorth cynhwysfawr i ddarparwyr prentisiaethau, sy’n cynnwys:

  • Cyngor ar roi cymorth i brentis â chyflwr iechyd meddwl
  • Addysg a phecyn cymorth sy’n llawn cyngor o ran yr hyn i’w wneud a’r hyn i beidio â’i wneud
  • Hyrwyddo’r gwasanaeth, hawdd cael mynediad iddo yn fewnol i’ch prentisiaid
  • Cyfleoedd i fynychu digwyddiadau dysgu Hyderus o ran Anabledd

Mae Able Futures yn bartneriaeth genedlaethol arbenigol a sefydlwyd i ddarparu’r Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad at Waith ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae’r cymorth a ddarperir wedi’i lunio i helpu pobl sy’n byw gydag anawsterau iechyd meddwl ac mae wedi’i ariannu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Mae’r bartneriaeth Able Futures yn cynnwys:

Ingeus

Mae Ingeus yn ddarparwr gwasanaethau byd-eang sy’n helpu i wneud newidiadau cadarnhaol. Maent yn rhoi’r cymorth a’r sgiliau y mae eu hangen ar bobl i ennill swydd, i ddod yn annibynnol ac i ddod yn gyflogeion cynhyrchiol.

Case-UK

Mae Case-UK yn gweithio gydag unigolion a theuluoedd i greu awydd i newid sy’n arwain at wella eu llesiant personol, eu llesiant cymdeithasol a’u llesiant economaidd.

Health 2 Employment

Mae Health 2 Employment yn rhoi cymorth i bobl sy’n byw gydag anawsterau corfforol ac anawsterau iechyd meddwl. Bydd tîm iechyd meddwl hynod gymwysedig yn helpu pobl i reoli eu cyflyrau fel y gallant ddod o hyd i swyddi ac aros mewn cyflogaeth am gyfnod hirach.

Salus

Mae Salus yn ddarparwr gwasanaethau iechyd galwedigaethol, diogelwch a dychwelyd i’r gwaith a leolir yn y GIG. Mae’r cyngor a’r cymorth o’r radd flaenaf a ddarperir ganddynt yn helpu pobl â chyflyrau iechyd i ddychwelyd i’r gwaith ac i aros mewn cyflogaeth.

Gall y cymorth rydych chi’n ei ddarparu o dan y Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad at Waith helpu eich prentisiaid gydag anawsterau iechyd meddwl i brofi mwy o ddiwrnodau da, sy’n lleihau’r perygl i’ch buddsoddiad amser ac adnoddau.

Ar ben hynny, ar yr un pryd bydd y gwasanaeth yn gwella presenoldeb a pherfformiad prentisiaid a’r tebygolrwydd y byddant yn cwblhau eu hastudiaethau.

Trwy ddarparu cymorth rydych chi’n dangos eich ymrwymiad i adeiladu cynwysoldeb ac amrywiaeth sy’n gallu gwella ymgysylltu prentisiaid a chreu ‘corongylch’ cadarnhaol o amgylch y gweithlu.